Cyhoeddwyd Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru (goln Pwyll ap Siôn a Wyn Thomas) Y Lolfa ym mis Medi 2018. Cafodd y prosiect ei gyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r Cydymaith yn cwmpasu holl gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig, gan gynnwys:
- Cerddoriaeth gynnar at gerddoriaeth gyfoes;
- O’r traddodiadol i’r modern;
- Canu gwerin at ganu pop;
- Cantorion, cerddorion, unawdwyr, cerddorfeydd;
- Canolfannau a chymdeithasau pwysig a gŵyliau cerdd;
- Traciau sain ar gyfer y sgrîn a’r sinema.
Mae’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru ar gael am £39.99 yn eich siop lyfrau leol ac ar wefannau gwerthu llyfrau.